Caru/Casau
Wednesday, November 30, 2005
  Pethe Chi Ddim Yn Clywed Yn Aml...

"O, helo Ninjah, nes i ddim sylwi arnat ti fana"
 
Thursday, November 24, 2005
  7 Peth Dwi'n Edrych 'Mlaen Atynt...


1. Fy Nhrip i Efrog Newydd - oes rhaid esbonio?

2. Factotum - Matt Dillon fel Hank Chinaski mewn ffilm o nofel ffantastic Charles Bukowski.

3. The Juan Maclean - Un o'r acts ore ar un o labeli ore'r byd, sef DFA yn Clwb Ifor ar nos Lun Rhagfyr 6.

4. Phillip Glass - Trioleg Qatsi gyda cherddoriaeth byw yng Nghanolfan y Milleniwm. DidlididlididlididlididliKOYANSQATSI!

5. Trac newydd Llwybr Llaethog gyda David R. Edwards - Record newydd cyntaf Dave Datblygu ers ddeng mlynedd ar hugain. Neu rywbeth...

6. Mynd a fy nyth, Gwennan, i'r panto dros y gwyliau.

7. Y Gaeaf Oerach Ers Oes Yr Ia - Anhrefn, ia a cotiau mawr. Hwre!
 
Saturday, November 19, 2005
  Bywyd Ryan... a Ronnie


Ar ol methu hwn yng Nghaerdydd, a gan bod fy ngwraig wedi cynllunio'r gwisgoedd, penderfynais fynd i weld drama newydd Meic Povey i Sgript Cymru lan yn Llundain. A dwi'n falch ofnadwy mod i wedi gwneud. Mae'r actio (Aled Puw a Kai Owen) yn gampus a'r set (gan Max Jones)yn ein cymryd ni reit mewn i fyd clybiau cabaret y 70au gan wneud i mi feddwl ar yr un pryd am y 'Double Diamond' yng Nghaerffili a 'Sand's yn Las Vagas.

Wrth gwrs i ni yng Nghymru (wel rheini ohonom sy'n gallu cofio'r 70au, o leia) mae Ryan a Ronnie'n chwedlonol. Dwi'n cofio'r rhaglenni teledu (Cymraeg a Saesneg) gyda'u catchphrases a chymeriadau gwallgof. "Don't call Will on your father" a Ryan mewn drag. Aeth fy rhieni i weld y ddeuawd yn fyw mwy nag unwaith. Dwi'n cofio dad yn mynd i weld Ryan yn 'The Sunshine Boys' gyda Bill Owen, ac es i i weld Ronnie mewn cynhyrchiad o Godot. Ond a fydd stori'r ddeuawd yma yn meddwl unhrywbeth i gynilleidfa Llundain?

Wel pam lai. Mae drama Povey yn canolbwyntio ar y tensiwn rhwng y ddau perfformiwr. Ar uchelgais Ryan ac alcoholiaeth Ronnie. Ac ar y ffactorau oedd yn rhwygo'r ddau'n ddarnau. Mae'r themau yn rhai cyffredinol ac mae gwylio'r ddrama fel gwylio priodas yn chwalu o flaen dy lygaid. Weithiau rhaid gofyn pam ydynt yn rhoi ei hun trwy'r fath artaith, ond wedyn ti'n meddwl am y bobl sy'n aros yn y perthnasau mwyaf erchyll.

Ond hei, onid sioe am gwpwl o ddigrifwyr yw hyn? Oherwydd, dyw e ddim aciwali'n ddoniol iawn. Oce mae na jocs o'r rwtins, ond mae gan Povey mwy o ddiddordeb mewn dangos y rwtins yn torri lawr. Mae'r olygfa yn Blackpool yn boenus i wylio gyda'r ddau yn amlwg yn flinedig a bys Ronnie yn gadarn ar y botwm self destruct. Mae Ryan yn ymddangos yn hollol sicr o'i dalent a'i dynged i fod yn un o ddiddanwyr mawr y byd. Ond wrth gwrs, trasiedi sydd ger ein bron fan hyn, a dyna fel mae Povey'n gweld yr hanes. Mae'r partneriaeth yn chwalu, Ryan yn marw'n ifanc yn America a Ronnie'n baglu mlaen nes lladd ei hun ym 1997.

Mi fysa mwy o jocs di gwneud y ddrama'n gryfach, y cwymp yn fwy trasic. Ie, wrth gwrs, mi roedd Ryan yn athrylyth - rhyw fath o Sammy Davies Junior o Rydaman, ond roedd mwy i Ronnie na jest bod yn ffwl feddw. Mi roedd e'n straight man campus ac yn actor talentog. Mi fasa dangos un neu ddau olygfa o'r ddeuawd wrthi ffwl pelt wedi codi'r ddrama reit i fynu ac wedi dangos i'r Saeson a'r genhedlaeth iau pam fod pobol yn dal i gofio Ryan a Ronnie gyda siwt edmygedd a chariad.
 
Tuesday, November 15, 2005
  Arwyddion Dwyieithog


Nawr, dwi'n gwybod na ddylwn i ddweud hyn, a bod Dafydd Iwan a Saunders wedi diodde blynyddoedd yn cael eu harteithio mewn concentration camps y Saeson jest er mwyn eu gwneud yn bosib, ond (anadlwch i fewn yn ddwfn); dwi'n onestli meddwl bod arwyddion dwyieithog yn gallu bod yn annoying. Hollol. Ffwcin. Annoying.

Wehey! Stopiwch, wnewch chi! Chill! Cyn i chi drefni rali tu allan i'm fflat, a gai esbonio fy hun? Cefais fy magi mewn pentref o'r enw Abertridwr ger Caerffili/Caerphilly. Dwi wastad wedi casau y sillafiad 'philly', ac wedi ffantaseiddio am chwyldro fyddai'n cael gwared ohono, am byth!

Ond yr un sy'n rili neud i mi grafu mhen mewn syndod yw'r un jest cyn Pontypridd wrth i ti yrru i'r gogledd lan yr A470. Es i i'r ysgol yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Roedd Rhydfelen mewn pentref o'r enw Rhydyfelin. Yr esboniad am y gwahaniaeth yn y sillafi oedd taw enw gwreiddiol y pentre oedd Rhydfelen, oherwydd bod lliw y dwr (yn y rhyd) yn troi'n felen oherwydd y mwyngloddion yn y cerrig. Neu rhywbeth. Dros y flynyddoedd, mi newidiodd yr enw ar lafar i -yfelin ar ol rhyw melin nad oedd wedi bodoli. Hmm. Y peth yw, Rhydyfelin yw beth mae'r pobol leol i gyd yn galw'r lle. Mae'n enw pert a Chymraeg. Be di'r ots os nad yw e'n hanesydol gywir? Wel, mae'r pedants wedi penderfynu bod angen enw Cymraeg 'go iawn' ar y pentre, ac wedi'i enwi ar ol yr ysgol. Felly, ai enw 'Saesneg' y pentre yw Rhydyfelin a'r enw 'Cymraeg' yw Rhydfelen? Ac ai fi yw'r unig un i feddwl bod hwn yn sefyllfa chwerthynllid?
 
Sunday, November 13, 2005
  Caerdydd, Diwedd y Byd...

Nos Sadwrn, es i draw i Cineworld i weld dangosiad o bennod cyntaf cyfres drama newydd S4C, sef "Caerdydd". Wrth gwrs, fel pennodau cyntaf yn gyffredinol mae na loads o ddechrau dod i nabod y cymeriadau yn mynd mlaen. Ac mae na loads o gymeriadau i ddod i nabod. Yn ffodus mae pawb yn naill ai byw gyda, gweithio gyda, yn yfed yn yr un bar a, yn perthyn i neu'n shagio cymeriad Ryland Teifi. Neu'n nabod rhywyn sy yn. Mae'n slic, egniol ac yn swnllyd. Er taw "Caerdydd" yw teitl y rhaglen, mae'r golygfeudd wedi'u osod yn y Caerdydd newydd - bariau a fflatiau datblygiadau y bae. A'r cynilliad. Does gan neb yma acen Caerdydd (mae hyd yn oed y cymeriad token di -Gymraeg yn cocni!), ond dyw hwn ddim o reidrwydd yn beth drwg. Mae e fel gwylio bunch o ex pats mewn dinas estron yn ceisio ffeindio'u ffordd o gwmpas.

Mae'r cast yn ifanc, golygus a thalentog, y sgriptio'n dynn a'r ffotograffiaeth yn gwneud ir ddinas edrych yn hyfryd. Mae na rai darnau sy ddim yn taro deuddeg, fel er enghraifft o'n i methu credu pam fyddai neb sy ddim yn hollol obsessed gyda miwsic a recordiau yn hyd yn oed ystyried agor siop ynghanol dinas sy'n arbenigo mewn vinyl prin a chasgladwy. Efallai cawn ffeindio allan wrth i'r gyfres ddatblygu.

Dyw pawb ddim yn mynd i gael eu swyno gan y gyfres 'ma. Fe dybiwn i fod jest y teitl ei hun yn mynd i flino rhai. Gallai glywed y cwynion nawr; "Beth sy'n bod ar Llanbed? Neu Ddolgellau? Mae C***dydd yn cael popeth!!" Y peth yw, does dim llawer o ddrama ar S4C wedi'i osod yn y brifddinas, felly dwi, am un, yn edrych ymlaen at weld y gyfres yn datblygu. Hyd yn oed os taw dim ond un agwedd o'r ddinas mawr drwg a chymleth yma sy'n cael ei dangos yn y bennod cyntaf...
 
Saturday, November 12, 2005
  Geraldo Pinto & The Heart Beats, Let's Have A Party

Waw! Newydd brynu'r album ma, ac mae'n un o'r pethau mwyaf ffwnci dwi di clywed ers ages. Cafodd ei recordio yn y 70au gan y grwp gwych yma o Sierra Leone oedd yn ddylanwad masif ar yr athrylithgar Fela Kuti. Nuff sed rili. Mae swn yr allweddellau yn ffantastic a'r drums jest yn neud i ti neidio lan a lawr. Yn ogystal a chaneuon yn ein hanog i gael parti a dawnsio, mae negeseuon (wel, sloganeiddio) mewn caneuon fel Africans Must Unite a Power To The People. Gwych! Mi fyddai'n chwarae'r holl beth heno siwr o fod wrth djio yn Clwb Ifor. Caru hwn!!
 
  HAMLET YN GYMRAEG

Ok, mae Hamlet yn ddrama wych. Efallau'r ddrama orau erioed. Mae'r fersiwn hyn (cyfieithiad Cymraeg newydd sbon gan Gareth Miles) yn ddigon gwyliadwy. Sets mawr drud, gwisgoedd coeth, loads o bobl ar y llwyfan, Gaz o rownd a rownd yn chwarau'r brif ran. Ac mae'n gret gweld rhywbeth Cymraeg ar y fath raddfa. Thing is, ron i methu deall beth oedd lot o'r actorion yn dweud. Yn enwedig Dafydd Emyr. Ac mae fe'n rhy dal. Mae'n gwneud i Meilir Sion a Geraint Pickard edrych fel plant bach. Neu jockies.

Eniwe, obviously, roedd e'n hir. Ond doedd e ddim yn boring. Jest aneglur. Roedd Kath Dimery a Catrin Rhys yn gret hefyd. A'r olygfa gyda'r torrwyr beddi gydag Owen Garmon a Bradley Freegard. O'n i'n lico hwna. OK.
 
  Y SIART!



DYMA BE DWI"N GWRANDO ARNO LOT:

1. 1969 - The Stooges
2. This Is Love - P J Harvey
3. Seventeen (Soulwax Remix) - Ladytron
4. All Hail Satan - Kings Have Long Arms
5. Jerk Me - New Young Pony Club
6. Swci - Swci Boscawen
7. So Far - Faust
8. Give Me Every Little Thing - The Juan Maclean
9. Transmission - Joy Division
10. Siwsi - Y Nhw
 
Friday, November 11, 2005
  Y Lleill


Es i weld ffilm Emyr Glyn Williams, sef "Y Lleill" neithiwr. Top notch! Golygfeudd grim o Flaenau Ffestiniog yn y glaw, moody teenagers ar gyffuriau, cenedlaetholwyr diflas, cyflwynydd teledu oversexed a phatronising a cherddoriaeth pync uchel a hollol anghymdeithasol. Mae'n edrych yn gret, wedi'i saethu gan Aled Jenkins ac mae na gymeriadau canolig gredadwy sy'n datblygu'n gynil. Ok, so mae na ambell gymeriad sy jest yno fel ffigyrau sarhaus, ond ar y cyfan maent yn gweithio.

Mae'r stori'n canolbwyntio ar helyntion grwp pync o'r enw Y Lleill dros gyfnod o chydig o ddyddiau lle maent yn chwarau cwpwl o gigs, rhyddhau record (ar feinyl, gwych!!), ymddangos ar y teledu, cael rhyw random a chymryd llond lori o gyffuriau. Maent yn cweryla gyda'i gilydd, eu teuluoedd, trefnwyr gigs a bob math o bobl diflas arall am gerddoriaeth, gwleidyddiaeth a chael eu talu. Ym, dyna fe rili.

Yn ymuno gydag actorion profiadol fel Iwcs, Dewi Rhys a Morfydd Huws (sy'n chwarau rhannau ymylol) mae cast ifanc, crai sy'n rhoi perfformiadau gret. Mae Rhian Green sy'n chwarae rhan Pati, y gitarydd sy'n enjoio piso'r nashis off trwy canu can (wel adrodd un o'i "Poems" dros swn y band actiwyli!) Saesneg, yn rhagorol. Rili hoffi hwn. Ewch i'w gweld...
 
Celfyddydau. Mae'r ysgrifen ar y mur...

Name:
Location: Caerdydd, Cymru

Gofyn i mam...

ARCHIVES
November 2005 / January 2006 / February 2006 / March 2006 /


Powered by Blogger