Caru/Casau
Sunday, November 13, 2005
  Caerdydd, Diwedd y Byd...

Nos Sadwrn, es i draw i Cineworld i weld dangosiad o bennod cyntaf cyfres drama newydd S4C, sef "Caerdydd". Wrth gwrs, fel pennodau cyntaf yn gyffredinol mae na loads o ddechrau dod i nabod y cymeriadau yn mynd mlaen. Ac mae na loads o gymeriadau i ddod i nabod. Yn ffodus mae pawb yn naill ai byw gyda, gweithio gyda, yn yfed yn yr un bar a, yn perthyn i neu'n shagio cymeriad Ryland Teifi. Neu'n nabod rhywyn sy yn. Mae'n slic, egniol ac yn swnllyd. Er taw "Caerdydd" yw teitl y rhaglen, mae'r golygfeudd wedi'u osod yn y Caerdydd newydd - bariau a fflatiau datblygiadau y bae. A'r cynilliad. Does gan neb yma acen Caerdydd (mae hyd yn oed y cymeriad token di -Gymraeg yn cocni!), ond dyw hwn ddim o reidrwydd yn beth drwg. Mae e fel gwylio bunch o ex pats mewn dinas estron yn ceisio ffeindio'u ffordd o gwmpas.

Mae'r cast yn ifanc, golygus a thalentog, y sgriptio'n dynn a'r ffotograffiaeth yn gwneud ir ddinas edrych yn hyfryd. Mae na rai darnau sy ddim yn taro deuddeg, fel er enghraifft o'n i methu credu pam fyddai neb sy ddim yn hollol obsessed gyda miwsic a recordiau yn hyd yn oed ystyried agor siop ynghanol dinas sy'n arbenigo mewn vinyl prin a chasgladwy. Efallai cawn ffeindio allan wrth i'r gyfres ddatblygu.

Dyw pawb ddim yn mynd i gael eu swyno gan y gyfres 'ma. Fe dybiwn i fod jest y teitl ei hun yn mynd i flino rhai. Gallai glywed y cwynion nawr; "Beth sy'n bod ar Llanbed? Neu Ddolgellau? Mae C***dydd yn cael popeth!!" Y peth yw, does dim llawer o ddrama ar S4C wedi'i osod yn y brifddinas, felly dwi, am un, yn edrych ymlaen at weld y gyfres yn datblygu. Hyd yn oed os taw dim ond un agwedd o'r ddinas mawr drwg a chymleth yma sy'n cael ei dangos yn y bennod cyntaf...
 
Comments:
Aye, ble oedd Grangetown, Splott, Yr Eglwys Newydd, Gabalfa? Roedd pob dim yn troi o amgylch y Bae neu ganol y dre'. Faint o amser mae pobl sy'n byw yng Nghaerdydd yn ei dreulio yn y llefydd hyn o gymharu รข faint welwyd yn y rhaglen?
 
Post a Comment



<< Home
Celfyddydau. Mae'r ysgrifen ar y mur...

Name:
Location: Caerdydd, Cymru

Gofyn i mam...

ARCHIVES
November 2005 / January 2006 / February 2006 / March 2006 /


Powered by Blogger