Caru/Casau
Saturday, November 19, 2005
  Bywyd Ryan... a Ronnie


Ar ol methu hwn yng Nghaerdydd, a gan bod fy ngwraig wedi cynllunio'r gwisgoedd, penderfynais fynd i weld drama newydd Meic Povey i Sgript Cymru lan yn Llundain. A dwi'n falch ofnadwy mod i wedi gwneud. Mae'r actio (Aled Puw a Kai Owen) yn gampus a'r set (gan Max Jones)yn ein cymryd ni reit mewn i fyd clybiau cabaret y 70au gan wneud i mi feddwl ar yr un pryd am y 'Double Diamond' yng Nghaerffili a 'Sand's yn Las Vagas.

Wrth gwrs i ni yng Nghymru (wel rheini ohonom sy'n gallu cofio'r 70au, o leia) mae Ryan a Ronnie'n chwedlonol. Dwi'n cofio'r rhaglenni teledu (Cymraeg a Saesneg) gyda'u catchphrases a chymeriadau gwallgof. "Don't call Will on your father" a Ryan mewn drag. Aeth fy rhieni i weld y ddeuawd yn fyw mwy nag unwaith. Dwi'n cofio dad yn mynd i weld Ryan yn 'The Sunshine Boys' gyda Bill Owen, ac es i i weld Ronnie mewn cynhyrchiad o Godot. Ond a fydd stori'r ddeuawd yma yn meddwl unhrywbeth i gynilleidfa Llundain?

Wel pam lai. Mae drama Povey yn canolbwyntio ar y tensiwn rhwng y ddau perfformiwr. Ar uchelgais Ryan ac alcoholiaeth Ronnie. Ac ar y ffactorau oedd yn rhwygo'r ddau'n ddarnau. Mae'r themau yn rhai cyffredinol ac mae gwylio'r ddrama fel gwylio priodas yn chwalu o flaen dy lygaid. Weithiau rhaid gofyn pam ydynt yn rhoi ei hun trwy'r fath artaith, ond wedyn ti'n meddwl am y bobl sy'n aros yn y perthnasau mwyaf erchyll.

Ond hei, onid sioe am gwpwl o ddigrifwyr yw hyn? Oherwydd, dyw e ddim aciwali'n ddoniol iawn. Oce mae na jocs o'r rwtins, ond mae gan Povey mwy o ddiddordeb mewn dangos y rwtins yn torri lawr. Mae'r olygfa yn Blackpool yn boenus i wylio gyda'r ddau yn amlwg yn flinedig a bys Ronnie yn gadarn ar y botwm self destruct. Mae Ryan yn ymddangos yn hollol sicr o'i dalent a'i dynged i fod yn un o ddiddanwyr mawr y byd. Ond wrth gwrs, trasiedi sydd ger ein bron fan hyn, a dyna fel mae Povey'n gweld yr hanes. Mae'r partneriaeth yn chwalu, Ryan yn marw'n ifanc yn America a Ronnie'n baglu mlaen nes lladd ei hun ym 1997.

Mi fysa mwy o jocs di gwneud y ddrama'n gryfach, y cwymp yn fwy trasic. Ie, wrth gwrs, mi roedd Ryan yn athrylyth - rhyw fath o Sammy Davies Junior o Rydaman, ond roedd mwy i Ronnie na jest bod yn ffwl feddw. Mi roedd e'n straight man campus ac yn actor talentog. Mi fasa dangos un neu ddau olygfa o'r ddeuawd wrthi ffwl pelt wedi codi'r ddrama reit i fynu ac wedi dangos i'r Saeson a'r genhedlaeth iau pam fod pobol yn dal i gofio Ryan a Ronnie gyda siwt edmygedd a chariad.
 
Comments: Post a Comment



<< Home
Celfyddydau. Mae'r ysgrifen ar y mur...

Name:
Location: Caerdydd, Cymru

Gofyn i mam...

ARCHIVES
November 2005 / January 2006 / February 2006 / March 2006 /


Powered by Blogger