Caru/Casau
Friday, March 17, 2006
  Ble Rwyt Ti Rhwng?


Dwi newydd ddarllen llyfr newydd Hefin Wyn am pop Cymraeg o 1980 - 2000, sef 'Ble Wyt Ti Rhwng?' ar gyfer cylchgrawn Golwg. Dyma fy adolygiad:

Wrth ddarllen ail gyfrol Hefin Wyn am hanes canu poblogaidd Cymraeg, cefais fy atgoffa o gymeriad Woody Allen yn y film Zelig. Ac mae’n siwr bydd llawer o dddarllenwyr hyn y gyfrol yn teimlo’r un peth. Yn y ffilm mae Allen yn chwarae rhan dyn, sydd rhywsyt wastad yna pan mae hanes yn cael ei greu. Os wyt ti’n edrych yn ofalus ar luniau enwog o hanes yr ugeinfed ganrif, fe weli di fe, Zelig, yna yn y cefndir yn rhywle. Ac mae ton Hefin Wyn, yn y gyfrol fawr yma, yn ein argyhoeddu mae hanes go bwysig sy’n cael ei adrodd fan hyn. O fethiant siomedig yr ymgyrch ddatganoli ym 1979 hyd at lwyddiant Mwng, record hir uniaith Gymraeg, yn y siartiau Brydeinig yn 2000, mae ein diwilliant pop wedi bod ar daith hir, rhyfedd ac ar adegau, cynhyrfus tu hwnt.

Mae Hefin Wyn wedi casglu erthyglau, adolygiadau, cyfweliadau ac atgofion o gylchgronnau, ffansins ac unigolion ac wedi’u plethu mewn I stori llawn cymeriadau, gwrthdaro dramatig, digwiddiadau anisgwyl sy’n cydio o’r dudalen gyntaf. Er nad yw pob pennod yn dechre cweit yn gronolegol ar ol y llall, mae na rhyw deimlad o symud ymlaen yn digwydd, gyda phob symudiad, cwlt, clic ac agwedd o’r sin yn cael ei ystyried mewn cyd destyn diwillianol, sosiolegol a pholiticaidd.

Os oeddet ti, fel Zelig a minnau, yna, mae’r llyfr yn dod ag atgofion o’r cyfnod yn ol yn glir ac yn finiog; perfformiadau angerddol Jarman a’r Cynghaneddwyr ar ddechrau’r wythdegau, cyfres Senglau Sain, y rhifyn diweddaraf o Sgrech yn cyrraedd, casetiau tanddeuarol, sessiynau p’nawn yn y Steddfod, Fideo Naw, marwolaeth Huw o’r Brodyr, Y Cyrff yn chwalu, Sothach, Sobin, albyms Datblygu, Super Furries yn arwyddo gyda Creation, Nia Melville ar y radio, canu yn Saesneg, Catatonia yn bygwth cymryd y byd drosodd ac wedyn yn cwympo’n ddarnau. Yr amserau da a’r drwg. Y neuaddau orlawn a gwag. Y cwymp a’r adferiad.

I’r rhai nad oeddynt yna, oedd yn rhy ifanc, yn rhy hen neu ar wyliau estynedig yn Siberia, mae’n gofnod o amser cyn Maes E, C2 a Bandit. O amser pan oedd gan grwpiau Cymraeg enwau Cymraeg. Ac o amser pan nad oedd bod mewn grwp o reidrwydd yn opsiwn gyrfa. Mae’n bwysig cofio’r brwydro oedd yn mynd ymlaen jest I gael rhywfaint o airplay ar Radio Cymru weithiau. A hynny mewn cyfnod pan oedd John Peel ar Radio 1 yn fodlon rhoi cyfle I fandiau newydd di-ri.

Mae Ble Rwyt Ti Rhwng? yn olrhain hanes post punk y ddiwilliant Cymraeg yn ardderchog. Os wyt ti’n meddwl bod colofnau Rhys Mwyn yn y Daily Post yn ddadleuol (un o bynciau llosg Maes E ar hyn o bryd), aros nes I ti ddarllen ei rant yn y rhifyn cyntaf o Golwg, sydd wedi’I ail argraffu yn ei holl ogoniant yma (wel, heblaw am ambell I **** I gadw pethau’n weddus ar gyfer athrawon a mamau). Mae dylanwad Rhys yn fawr ar y stori, ac mae na lot gallwn ni ddiolch iddo am feiddio dangos I ni. Anghofiai byth y tro cyntaf I mi gwrdd ag ef cefn llwyfan yn Nawns Ryngolegol yn Aberystwyth ym 1980. Roedd fy mand I ar y pryd, Clustiau Cwn, yn whare gyda’r Cynganeddwyr. O’n I’n bymtheg oed ac yn rhannu cwrw a sbliff gyda Titch Gwilym a Neil White pan ddaeth y stiwdant llawn agwedd mewn siaced lledr ‘ma lan atai. Roedd e am wneud cyfweliad ar gyfer ffansin o’r enw Emotional Discharge. Soniodd am y twf mewn grwpiau ifanc, pyncaidd fel ni, am ei grwp ei hun, Y Pryfaid Marw ac am fand ei frawd, Sion, Yr Anhrefn.

Ond dwi ddim jest yma I foddi mewn hiraeth am rhyw oes a fu. O, na. Mae na bennodau yma am bethau nad oedd gennyf un jot o ddiddordeb ynddynt o’r blaen. Er enghraifft, dwi nawr yn gwbod (o’r diwedd) syt y cafodd Sobin A’r Smaeliaid eu henw neu faint o recordiau werthodd Aled Jones I gymharu a Malcolm Neon.

I fod yn onest,os oes gen I feirniadaeth o gwbl o’r llyfr, baswn I’n dweud fod na ormod yma. Mae na duedd I fynd bach yn academaidd am yr holl bwnc ar adegau. Wedi’r cyfan ( I gam ddyfynnu Mick Jagger) dim ond roc a roll yw e. Weithiau rydym yn mynd off ar dangents I’r sin canu gwlad a chanol y ffordd, sydd yn gallu bod (fel y miwsig ei hun) yn anniddorol a fflat. Prif stori y gyfrol yw syt wnaeth golygfa mewnblyg, naif a dryslid (ond oedd wastad yn optimistaidd a gwych) yr wythdegau cynnar troi mas llond ddwrn o fandiau oedd yn barod I whare mewn stadiwms a phrif neuaddau’r byd roc rhyngwladol. Ond eto, efallai fod e’n bwysig I ni gofio fod Merfyn yr Iodlwr neu Eleri Llwyd wastad wedi gwerthu lot mwy o recordiau na Ectogram neu Eirin Peryglus. Gwaetha’r modd!

Wrth ddarllen, mi deimlais rhyw falchder o fod yn rhan o rhywbeth mor greadigol a chynhyrfys. Doedd fy mlynyddoedd yn ceisio’n styfnig I greu synnau newydd neu trio ddilyn llwybrau amgenach na’r arfer ddim mewn ofer! Roedd y frwydr yn erbyn y genhedlaeth wnaeth ein gadael ni lawr yn ’79 yn un hir a dyrys, ond roedd e wastad yn hwyl a gwerth ei ymladd. A thybed a fydd y sin bop Cymraeg yn y cyflwr iach mae ynddo nawr os nad oedd e am pioneers mentrus fel Mr. Mwyn, bois Cytgord, Jarman, Llwybr Llaethog, Datblygu, Glyn Tomos, Ffa Coffi Pawb a degau o eneidiau tebyg eraill. Mae Ble Rwyt Ti Rhwng? Yn adrodd y stori yn onest ac yn frwdfrydig. Dyw Hefin Wyn ddim yn barnu nag yn trio rhoi gormod o sbin personol ar yr hanes, ond yn hytrach, mae’n gadael I gymeriadau’r sin i ddod trwyddo. Ardderchog!
 
Wednesday, March 08, 2006
  Taran! Mellt! Taro!

Es i weld The Go! Team neithiwr. O'n i'n disgwyl mlaen at hwn am fisoedd ar ol colli eu gig yn y Barfly llynedd. Dwi di bod yn eithaf obsessed gyda'r band ers i mi glywed y trac "We Listen Everyday" ar un o Cds Jockey Slut ychydig flynyddoedd yn ol. Defnyddiais traciau ganddynt mewn sioeau i mi gyfarwyddo (trend sydd wedi'i bigo fyny gan gwmniau teledu di ri erbyn hyn) a chwaraeais eu halbwm, Thunder, Lightning Strike yn uchel at unhryw un oedd yn fodlon gwrando. Fel Roxanne Shante yn jamio gyda My Bloody Valentine mewn party gwyllt ar un o cwrtiau basketball Brooklyn tua 1981, mae recordiau The Go! Team yn berffaith. Cinel, o'n i'n ecseited!

O'dd y support bands yn cwl; Smoosh a The Grates yn gwneud swn punky groovy ac yn edrych fel bod nhw'n cael amser fendigedig ar y llwyfan. Dwi wrth fy modd yn gwylio grwpiau sy mor amlwg yn cael hwyl a fyse unhryw fand arferol yn meddwl dwywaith cyn mynd ar y llwyfan ar ol perfformiad bywiog The Grates. Roedd y gynilleidfa wrth eu bodde da nhw. Ond nid band arferol mo'r Go! Team.

O. Mai. God. Nid band arferol mo'r Go! Team o gwbl. Ddaethon nhw ar y llwyfan mewn fflach o daran amellt egniol a hanner ffordd drwy'r gan gyntaf (ffwc, sai'n cofio pa un oedd e - Junior Kickstart? Panther Dash? Ladyflash? Mae'r holl beth yn blur, braidd!) roeddwn i wedi gwthio fy ffordd lawr i rhengoedd blaen y gyfnewidfa glo. Dwi heb wneud hwn ers blynyddoedd. Dyddie hyn dwi'n sefyll yn y cefn gyda peint yn fy llaw a meddwl fel hen git blin bod bandie ddim cweit cystal a phan oeddwn i'n ifanc. Ond na, dim heno. A dyna lle o'n i yn neidio lan a lawr fel Zebedee ar cristal meth bender. Roedd e fel petai pob record dwi byth wedi caru yn chwarau ar yr un pryd wedi'u cymysgu gan y dj orau yn hanes y byd. Ac mae Ninja, sy'n arwain y grwp ar y llwyfan yn ein hanog i neidio, clapio, gweiddu a chanu tra bod hi'n gwneud all of the above gan wenu fel y ferch hapusaf yn y byd ar ol derbyn yr anhreg orau'n y byd ar ei phenblwydd yn undeghapus. Mae'r parti'n mynd yn wylltach ac yn wylltach ac yn wylltach ar y llwyfan nes bod y rhieni'n dod adre, ond yn lle taflu ni gyd allan, mae nhw'n rhoi can o heineken o'r cwpwrdd i bawb ac yn dechrau dawnsio gyda ni. Neu rhywbeth.

The Go! Team. Y band ore fi di gweld ers y Flaming Lips. A dyfalwch beth? Mae'r Flaming Lips yn teithio Prydain mis nesaf gyda'r Go! Team yn syportio. ..
 
Sunday, February 19, 2006
  Hey, hey, its the Monkeys...


Penwythnos dwethaf fe rowliodd taith yr NME i fewn i Gaerdydd, felly bant a fi a Guto i'r Undeb i glywed yr hufen o'r sin indie 2006. Wel, Mystery Jets, We Are Scientists, Arctic Monkeys a Maximo Park, o leiaf. Wrth i ni gyraedd, roedd Mystery Jets ar y llwyfan yn canu eu "hit" Alas Agnes, oedd yn swnio'n neis iawn. O'dd We are Scientists yn oce, I suppose, wrth i ni yfed ein diodydd, sgwrsio gyda'r degau o ffrindiau oedd yna hefyd. Dwi di clywed ambell i drac ganddynt o'r blaen ac mae ganddynt swn reit cwl, os braidd yn 'generic indie'. Ond heno roedd pawb am weld y Mwnciod... A phan ddaethant ar lwyfan fe aeth y neuadd yn hollol ballistic. Cyrff yn rhythro i'r blaen i'w croesawi nhw gyda sgrecian a chymeradwyo eiddgar. Dwi ddim wedi clywed yr albym eto, ond roedd y caneuon yn gafael yn syth. Riffs solid a grwfi gydag agwedd ffwr a hi bendigedig. Da iawn. Aparently mae ganddynt geiriau reit dda hefyd. Maent yn atgoffa fi o'r Streets wedi asio gyda'r Libertines. Ond yn well. Nes i rili mwynhau 'r sioe ac yn edrych mlaen at gael copi o'r lp. Dwi'n teimlo'n flin dros Maximo Park. Wnaeth loads o bobol adael ar ol i'r Arctic Monkeys orffen. Ond i fod yn onest, does dim lot gallai gofio amdanynt, heblaw eu gwalltiau Kraftwerk a'r goleuadau cwl tu ol iddynt. O wel.
 
Friday, February 10, 2006
  Prydain Ar Radio Amgen


Mae Radio Amgen wedi penderfynu roi Prydain gan Reuvival ar eu gwefan. Felly, cerwch yna a lawrlwythwch clasur coll o electronica Cymraeg. Am ddim! Mae'n wych. Dylwn i wybod. Nes i helpu i gyfansoddi fe.

  • Radio Amgen
  •  
    Monday, January 30, 2006
      11 7" O'r Penwythnos

    Tra'n DJeio dros y penwythnos nes i whare loads o recordie bach 7" anghrhedadwy o ffynci sydd yn hyfryd iawn i edrych arnynt a dal yn fy nwylo. Dwi'n eu caru nhw gyd, wrth gwrs, ond dyma fy hoff rai (ar hyn o bryd):

    1. Grease Monkey - The Diplomats of Solid Sound (Vampisoul)
    2. Organ Grinder - Lefties Soul Connection (MPM)
    3. Do You Really Want to Rescue Me - Elsie Mae (Jazzman)
    4. Stay On The Groove - The New Mastersounds (Freestyle)
    5. At The Speakeasy - Speedometer (Freestyle)
    6. Funky Nassau - The Beginning Of The End (Alston)
    7. 7. Sexy Coffee Pot - Tony Avolon & The Belairs (Atlantic)
    8. Cold Bear - The Gaturs (Atco)
    9. Erotic Cakes - Stoned Soul Picnic (Soul Cookers)
    10. Law Of The Wild - Bendik Singers (Wah Wah Moose)
    11. Get Carter - Peak (Afro Art)
     
    Saturday, January 28, 2006
      Pwy Sy'n Ddroog?

    Es i weld Genod Droog yn y Toucan neithiwr. Wel, o'n i'n Djeio, ond swn i di mynd eniwe. Ac o'n nhw'n ar ffycin dderchog! Prosiect newydd Dyl Mei a'i chums gyda samples cool ac offerynnau byw, mae nhw'n fand perffaith ar gyfer eich parti ysgol sul. Fel Outcast wedi gwisgo fel Hogie Llandygae, ond heb y bits boring. Roedd y dorf wrth eu bodde'n neidio lan a lawr fel brogaod meddw ac yn snogio fel teenagers yng ngwersyll Llangrannog. A dim cwffio chwaith. Da iawn wir...
     
      Lle dwi di bod ers mis Rhagfyr...

    Fflipin 'eck, heb flogio am ages! Rhy brysur naill ai'n cael hwyl neu gweithio fel pe bawn i'n gaethwas ar un o longau'r Llychlyngwyr. Neu rywbeth. Eniwe, roedd Efrog Newydd yn ysblenydd, Nadolig a'r blwyddyn newydd yn neis iawn ac mae Ionawr wedi bod yn gymharol brysur a sobor. Dyma chydig o'r pethe dwi'n meddwl sy werth nodi:

    Philip Glass yng Nghanolfan y Mileniwm: Ffantastic! Es i weld y ddau ffilm ola yn y trioleg gan mod i wedi gwylio Koyaanisqasi cant a mil o weithiau ac wedi clywed Glass yn whare'r miwsic yn fyw o'r blaen. Dwi'n ffan masif, ond ddim yn gyfoethog iawn ar hyn o bryd, so Powaqqatsi a Naqoyqatsi amdani. I fod yn onest, roedd gen i un neu ddau o 'reservations' ynglyn a gwylio'r ffilmiau hynod yma heb cwpwl o lagers oer a bag o borfa drewllyd, ond ffwcin hel! O'dd y ddwy noson yn AWESOME! Ac roedd clywed y gerddoriaeth yn cael ei whare'n fyw yn brofiad bythgofiadwy. Mae dynoliaeth megis morgrug a'r gofod yn ymledu tu fewn i ni a thu allan. Am byth. Ac mae tragwyddoldeb megis chwinciad llygaid. Honest!

    Gwen Stefani yn Madisson Square Garden, Efrog Newydd. Dwi'n licio Gwen. O'dd No Doubt yn un o grwpiau pop Americanaidd ore'r ddegawd dwethaf. Tiwns catchy, agwedd a delwedd lliwgar a chwareus. Ac mae ei halbwm solo yn ardderchog, yr unig seren bop sy'n gallu cyraedd unhrywle'n agos at Madonna. Yn fyw, ma fe gyd na: Gwisgoedd yn newid ar gyfer bob yn ail gan, routines dawns bywiog a grymus gyda'r b boys a'r Harajuku girls a ffinale mawr gyda phawb fel baton twirlers yn gorymdeithio lan a lawr y llwyfan anferth. Da iawn, Gwen. Da iawn wir...

    Memoirs Of A Geisha: Tomen o gachu! Y ffilm waetha fi di gweld ers ages. Mae'n hollol EVIL! Mae'r ferch yma'n cael ei gwerthu gan ei thad i weithio mewn glorified brothel. Mae'r bloke canol oed ma'n prynu ice cream iddi pan mae hi tua naw oed, ac yn aros nes ei bod hi'n ddigon hen iddo brynu ei gwyryfdod mewn arwerthiant. Mae'n edrych yn bert tho, ac yn trio gwneud rhyw bwynt am diwilliant hynafol yn pasio, ond i fod yn onest roedd gen i fwy o gydymdeimlad da'r ferch oedd eisiau meddwi a chysgu gyda milwyr Americanaidd na'r rhai oedd eisiau cadw'r hen draddodiadau Siapaneaidd yn fyw.

    Brokeback Mountain: Mae hwn, ar y llaw arall yn ffilm gwych am gyfnod yn dod i ben. Chi siwr o fod yn gwybod y stori erbyn hyn. Mae Heath Ledger yn rhoi un o'r perfformiadau orau dwi rioed wedi gweld mewn ffilm. A nes i grio...

    Merlin And The Cave Of Dreams yn Theatr Y Sherman, Caerdydd: Siomedig, braidd. Mae sioeau Nadolig y Sherman fel arfer yn ffantastic, ond roedd hwn yn araf ac yn ddi sbarc. Un neu ddau o olygfeudd bach cwl rhwng Arthur a Cai ac o'n i'n hoffi'r cawr. Roedd y set yn cwl, ond roedd yno or ddefnydd o'r llwyfan chwyldroiol. O'n i yn hoffi'r gerddoriaeth hefyd, ond i fod yn onest doedd yr holl beth jest ddim yn dal da'i gilydd. O wel.

    Celebrity Big Brother ar y teledu: Mental. Fel gwylio Space Shuttle yn crasho. Enjoies i hwn mas draw!
     
    Wednesday, November 30, 2005
      Pethe Chi Ddim Yn Clywed Yn Aml...

    "O, helo Ninjah, nes i ddim sylwi arnat ti fana"
     
    Celfyddydau. Mae'r ysgrifen ar y mur...

    Name:
    Location: Caerdydd, Cymru

    Gofyn i mam...

    ARCHIVES
    November 2005 / January 2006 / February 2006 / March 2006 /


    Powered by Blogger