Caru/Casau
Friday, March 17, 2006
  Ble Rwyt Ti Rhwng?


Dwi newydd ddarllen llyfr newydd Hefin Wyn am pop Cymraeg o 1980 - 2000, sef 'Ble Wyt Ti Rhwng?' ar gyfer cylchgrawn Golwg. Dyma fy adolygiad:

Wrth ddarllen ail gyfrol Hefin Wyn am hanes canu poblogaidd Cymraeg, cefais fy atgoffa o gymeriad Woody Allen yn y film Zelig. Ac mae’n siwr bydd llawer o dddarllenwyr hyn y gyfrol yn teimlo’r un peth. Yn y ffilm mae Allen yn chwarae rhan dyn, sydd rhywsyt wastad yna pan mae hanes yn cael ei greu. Os wyt ti’n edrych yn ofalus ar luniau enwog o hanes yr ugeinfed ganrif, fe weli di fe, Zelig, yna yn y cefndir yn rhywle. Ac mae ton Hefin Wyn, yn y gyfrol fawr yma, yn ein argyhoeddu mae hanes go bwysig sy’n cael ei adrodd fan hyn. O fethiant siomedig yr ymgyrch ddatganoli ym 1979 hyd at lwyddiant Mwng, record hir uniaith Gymraeg, yn y siartiau Brydeinig yn 2000, mae ein diwilliant pop wedi bod ar daith hir, rhyfedd ac ar adegau, cynhyrfus tu hwnt.

Mae Hefin Wyn wedi casglu erthyglau, adolygiadau, cyfweliadau ac atgofion o gylchgronnau, ffansins ac unigolion ac wedi’u plethu mewn I stori llawn cymeriadau, gwrthdaro dramatig, digwiddiadau anisgwyl sy’n cydio o’r dudalen gyntaf. Er nad yw pob pennod yn dechre cweit yn gronolegol ar ol y llall, mae na rhyw deimlad o symud ymlaen yn digwydd, gyda phob symudiad, cwlt, clic ac agwedd o’r sin yn cael ei ystyried mewn cyd destyn diwillianol, sosiolegol a pholiticaidd.

Os oeddet ti, fel Zelig a minnau, yna, mae’r llyfr yn dod ag atgofion o’r cyfnod yn ol yn glir ac yn finiog; perfformiadau angerddol Jarman a’r Cynghaneddwyr ar ddechrau’r wythdegau, cyfres Senglau Sain, y rhifyn diweddaraf o Sgrech yn cyrraedd, casetiau tanddeuarol, sessiynau p’nawn yn y Steddfod, Fideo Naw, marwolaeth Huw o’r Brodyr, Y Cyrff yn chwalu, Sothach, Sobin, albyms Datblygu, Super Furries yn arwyddo gyda Creation, Nia Melville ar y radio, canu yn Saesneg, Catatonia yn bygwth cymryd y byd drosodd ac wedyn yn cwympo’n ddarnau. Yr amserau da a’r drwg. Y neuaddau orlawn a gwag. Y cwymp a’r adferiad.

I’r rhai nad oeddynt yna, oedd yn rhy ifanc, yn rhy hen neu ar wyliau estynedig yn Siberia, mae’n gofnod o amser cyn Maes E, C2 a Bandit. O amser pan oedd gan grwpiau Cymraeg enwau Cymraeg. Ac o amser pan nad oedd bod mewn grwp o reidrwydd yn opsiwn gyrfa. Mae’n bwysig cofio’r brwydro oedd yn mynd ymlaen jest I gael rhywfaint o airplay ar Radio Cymru weithiau. A hynny mewn cyfnod pan oedd John Peel ar Radio 1 yn fodlon rhoi cyfle I fandiau newydd di-ri.

Mae Ble Rwyt Ti Rhwng? yn olrhain hanes post punk y ddiwilliant Cymraeg yn ardderchog. Os wyt ti’n meddwl bod colofnau Rhys Mwyn yn y Daily Post yn ddadleuol (un o bynciau llosg Maes E ar hyn o bryd), aros nes I ti ddarllen ei rant yn y rhifyn cyntaf o Golwg, sydd wedi’I ail argraffu yn ei holl ogoniant yma (wel, heblaw am ambell I **** I gadw pethau’n weddus ar gyfer athrawon a mamau). Mae dylanwad Rhys yn fawr ar y stori, ac mae na lot gallwn ni ddiolch iddo am feiddio dangos I ni. Anghofiai byth y tro cyntaf I mi gwrdd ag ef cefn llwyfan yn Nawns Ryngolegol yn Aberystwyth ym 1980. Roedd fy mand I ar y pryd, Clustiau Cwn, yn whare gyda’r Cynganeddwyr. O’n I’n bymtheg oed ac yn rhannu cwrw a sbliff gyda Titch Gwilym a Neil White pan ddaeth y stiwdant llawn agwedd mewn siaced lledr ‘ma lan atai. Roedd e am wneud cyfweliad ar gyfer ffansin o’r enw Emotional Discharge. Soniodd am y twf mewn grwpiau ifanc, pyncaidd fel ni, am ei grwp ei hun, Y Pryfaid Marw ac am fand ei frawd, Sion, Yr Anhrefn.

Ond dwi ddim jest yma I foddi mewn hiraeth am rhyw oes a fu. O, na. Mae na bennodau yma am bethau nad oedd gennyf un jot o ddiddordeb ynddynt o’r blaen. Er enghraifft, dwi nawr yn gwbod (o’r diwedd) syt y cafodd Sobin A’r Smaeliaid eu henw neu faint o recordiau werthodd Aled Jones I gymharu a Malcolm Neon.

I fod yn onest,os oes gen I feirniadaeth o gwbl o’r llyfr, baswn I’n dweud fod na ormod yma. Mae na duedd I fynd bach yn academaidd am yr holl bwnc ar adegau. Wedi’r cyfan ( I gam ddyfynnu Mick Jagger) dim ond roc a roll yw e. Weithiau rydym yn mynd off ar dangents I’r sin canu gwlad a chanol y ffordd, sydd yn gallu bod (fel y miwsig ei hun) yn anniddorol a fflat. Prif stori y gyfrol yw syt wnaeth golygfa mewnblyg, naif a dryslid (ond oedd wastad yn optimistaidd a gwych) yr wythdegau cynnar troi mas llond ddwrn o fandiau oedd yn barod I whare mewn stadiwms a phrif neuaddau’r byd roc rhyngwladol. Ond eto, efallai fod e’n bwysig I ni gofio fod Merfyn yr Iodlwr neu Eleri Llwyd wastad wedi gwerthu lot mwy o recordiau na Ectogram neu Eirin Peryglus. Gwaetha’r modd!

Wrth ddarllen, mi deimlais rhyw falchder o fod yn rhan o rhywbeth mor greadigol a chynhyrfys. Doedd fy mlynyddoedd yn ceisio’n styfnig I greu synnau newydd neu trio ddilyn llwybrau amgenach na’r arfer ddim mewn ofer! Roedd y frwydr yn erbyn y genhedlaeth wnaeth ein gadael ni lawr yn ’79 yn un hir a dyrys, ond roedd e wastad yn hwyl a gwerth ei ymladd. A thybed a fydd y sin bop Cymraeg yn y cyflwr iach mae ynddo nawr os nad oedd e am pioneers mentrus fel Mr. Mwyn, bois Cytgord, Jarman, Llwybr Llaethog, Datblygu, Glyn Tomos, Ffa Coffi Pawb a degau o eneidiau tebyg eraill. Mae Ble Rwyt Ti Rhwng? Yn adrodd y stori yn onest ac yn frwdfrydig. Dyw Hefin Wyn ddim yn barnu nag yn trio rhoi gormod o sbin personol ar yr hanes, ond yn hytrach, mae’n gadael I gymeriadau’r sin i ddod trwyddo. Ardderchog!
 
Comments: Post a Comment



<< Home
Celfyddydau. Mae'r ysgrifen ar y mur...

Name:
Location: Caerdydd, Cymru

Gofyn i mam...

ARCHIVES
November 2005 / January 2006 / February 2006 / March 2006 /


Powered by Blogger