Caru/Casau
Saturday, January 28, 2006
  Lle dwi di bod ers mis Rhagfyr...

Fflipin 'eck, heb flogio am ages! Rhy brysur naill ai'n cael hwyl neu gweithio fel pe bawn i'n gaethwas ar un o longau'r Llychlyngwyr. Neu rywbeth. Eniwe, roedd Efrog Newydd yn ysblenydd, Nadolig a'r blwyddyn newydd yn neis iawn ac mae Ionawr wedi bod yn gymharol brysur a sobor. Dyma chydig o'r pethe dwi'n meddwl sy werth nodi:

Philip Glass yng Nghanolfan y Mileniwm: Ffantastic! Es i weld y ddau ffilm ola yn y trioleg gan mod i wedi gwylio Koyaanisqasi cant a mil o weithiau ac wedi clywed Glass yn whare'r miwsic yn fyw o'r blaen. Dwi'n ffan masif, ond ddim yn gyfoethog iawn ar hyn o bryd, so Powaqqatsi a Naqoyqatsi amdani. I fod yn onest, roedd gen i un neu ddau o 'reservations' ynglyn a gwylio'r ffilmiau hynod yma heb cwpwl o lagers oer a bag o borfa drewllyd, ond ffwcin hel! O'dd y ddwy noson yn AWESOME! Ac roedd clywed y gerddoriaeth yn cael ei whare'n fyw yn brofiad bythgofiadwy. Mae dynoliaeth megis morgrug a'r gofod yn ymledu tu fewn i ni a thu allan. Am byth. Ac mae tragwyddoldeb megis chwinciad llygaid. Honest!

Gwen Stefani yn Madisson Square Garden, Efrog Newydd. Dwi'n licio Gwen. O'dd No Doubt yn un o grwpiau pop Americanaidd ore'r ddegawd dwethaf. Tiwns catchy, agwedd a delwedd lliwgar a chwareus. Ac mae ei halbwm solo yn ardderchog, yr unig seren bop sy'n gallu cyraedd unhrywle'n agos at Madonna. Yn fyw, ma fe gyd na: Gwisgoedd yn newid ar gyfer bob yn ail gan, routines dawns bywiog a grymus gyda'r b boys a'r Harajuku girls a ffinale mawr gyda phawb fel baton twirlers yn gorymdeithio lan a lawr y llwyfan anferth. Da iawn, Gwen. Da iawn wir...

Memoirs Of A Geisha: Tomen o gachu! Y ffilm waetha fi di gweld ers ages. Mae'n hollol EVIL! Mae'r ferch yma'n cael ei gwerthu gan ei thad i weithio mewn glorified brothel. Mae'r bloke canol oed ma'n prynu ice cream iddi pan mae hi tua naw oed, ac yn aros nes ei bod hi'n ddigon hen iddo brynu ei gwyryfdod mewn arwerthiant. Mae'n edrych yn bert tho, ac yn trio gwneud rhyw bwynt am diwilliant hynafol yn pasio, ond i fod yn onest roedd gen i fwy o gydymdeimlad da'r ferch oedd eisiau meddwi a chysgu gyda milwyr Americanaidd na'r rhai oedd eisiau cadw'r hen draddodiadau Siapaneaidd yn fyw.

Brokeback Mountain: Mae hwn, ar y llaw arall yn ffilm gwych am gyfnod yn dod i ben. Chi siwr o fod yn gwybod y stori erbyn hyn. Mae Heath Ledger yn rhoi un o'r perfformiadau orau dwi rioed wedi gweld mewn ffilm. A nes i grio...

Merlin And The Cave Of Dreams yn Theatr Y Sherman, Caerdydd: Siomedig, braidd. Mae sioeau Nadolig y Sherman fel arfer yn ffantastic, ond roedd hwn yn araf ac yn ddi sbarc. Un neu ddau o olygfeudd bach cwl rhwng Arthur a Cai ac o'n i'n hoffi'r cawr. Roedd y set yn cwl, ond roedd yno or ddefnydd o'r llwyfan chwyldroiol. O'n i yn hoffi'r gerddoriaeth hefyd, ond i fod yn onest doedd yr holl beth jest ddim yn dal da'i gilydd. O wel.

Celebrity Big Brother ar y teledu: Mental. Fel gwylio Space Shuttle yn crasho. Enjoies i hwn mas draw!
 
Comments: Post a Comment



<< Home
Celfyddydau. Mae'r ysgrifen ar y mur...

Name:
Location: Caerdydd, Cymru

Gofyn i mam...

ARCHIVES
November 2005 / January 2006 / February 2006 / March 2006 /


Powered by Blogger